23.4.08

S4C yn ffilmio ym Mrwsel/ S4C filming in Brussels

Bore da o Gymru braf heddiw! Rwyf wrthi yn paratoi cyfnod ffilmio rhalgen arbennig o '04Wal' ar gyfer y nawfed cyfres. 'Rydym yn gobeithio ffilmio rhaglen arbennig yn Ewrop mis Mehefin eleni i ffilmio eitemau mewn apartments neu tai Cymry sydd bellach yn byw yno llawn amser, neu sydd hefo apartment neu ty unrhywle yn Ewrop ac yn gwario eu gwyliau yno. A fyddech gennych chi ddiddordeb cymeryd rhan? A hefyd, ydach chi'n adnabod rhywun arall a fydde diddordeb cymeryd rhan.

Meinir Mai Richards, Cynhyrchydd|Producer, Fflic, meinir-mai@fflic.com, Ffon/Phone:+44 (0) 29 2040 9000

16.4.08

Hedfan yn ol i Gymru yn rhad ac am ddim!

E-bost: Y’ch chi’n berson cwis? Oes gennych awydd teithio? Hoffech chi drip tramor lle profwch wyliau bythgofiadwy? Os felly, mae cwis teithio newydd S4C yn berffaith ar eich cyfer. Am gyfle i gystadlu am wobrau ariannol a'r posibilrwydd o wyliau arbennig tramor cysylltwch a…

Neges i Gymry oddi cartre’: Gwlad y gan a bellach gwlad y cwis… Bydd cyfres newydd S4C yn rhoi cyfle i chi’r Cymry tramor gystadlu am wobrau ariannol a’r posibilrwydd o gael eich hedfan yn ol i Gymru am wyliau arbennig. Rhaid bod dros 18oed. Am fanylion pellach gyrrwch ebost neu ffoniwch unrhyw adeg. caryl@boomerang.co.uk 029 20 550 550 / 07816 786710