9.2.08

Cinio Dewi Sant

Cynhelir cinio blynyddol Dewi Sant y Gymdeithas eleni ar nos Sadwrn, Mawrth 1af, ym mwyty Groegaidd Le Syrtaki, Rue St Boniface, 22, Ixelles - o flaen eglwys St Boniface yn yr ardal Matonge. Mae yna ail mynediad ar Rue Ernest Solvay, a parcio (i'w dalu) gyferbyn a bar l'Ultime Atom ar Rue St Boniface.

Lleoliad

Metro Porte de Namur.

Mae Manolis a'i deulu yn cynnig pryd o: aperitif - meze - gigot d'agneau - pwdin - coffi - gwin, am €35. Y gigot yw arbennigiaeth cig oen y ty, ond mae dewisiadau erail (stec, pysgod, llyseuol, traddodidol Groeg ayyb) i'w gael - cysylltwch a Gareth (garethrl@gmail.com) am rhagor o fanylion. Dewisir y pwdin ar y noson, ac mi fydd 1/4l o win i bawb (coch, gwyn, rose neu retsina). Gellir archebu gwin o'r rhestr, ac o bosib efo disgownt (i'w gadarnhau).

Fe fydd siaradwr gwadd gyda ni am y noson, Dr.Seán O Riain, diplomydd o Iwerddon sy wedi gweithio mewn chwech gwlad gwahanol ac sy'n siarad wyth iaith yn cynnwys y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae e'n gweithio dros dro fel cyfieithydd Gwyddeleg yn y Comisiwn Ewropeiaidd. Cefnogwr cadarn amlieithrwydd, goroesiad yr iaith Wyddeleg ac yn frwdfrydig dros Esperanto, mae e'n credu bod Esperanto yn gallu helpu dysgu ieithoedd yn gyffredinol. Gweler ei wefan www.seanoriain.eu. Mae Seán hefyd yn "toastmaster" buddugol.

Mae'r bwyty wedi'i sefydlu ers 35 mlynedd a mwy, ac yn boblogaidd a bywiog ar y penwythnos felly gewn ni edrych ymlaen at gymysgiad o gerddoriaeth ac adloniant Cymreig a Groegaidd. Peidiwch a cholli allan! Atebwch i Rhodri a Gareth i gadarnhau'ch bod yn dod, a'r nifer o westai, cyn gynted a phosib ac yn sicr cyn nos Wener Chwefror 23ain ar y man pellaf.

No comments: