Mae aelod-wladwriaethau'r UE wedi cyfuno'u sofraniaeth a chreu sefydliadau cyffredin er mwyn gwneud penderfyniadau democrataidd ar faterion sydd o ddiddordeb i nifer ohonynt ar lefel Ewropeaidd.
Caiff busnes yr UE ei hwyluso drwy sefydliadau megis Cyngor y Gweinidogion, Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd. Caiff eu gwaith ei gefnogi gan gyrff cynghori megis Pwyllgor y Rhanbarthau a Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop.
Cyngor yr UE (Cyngor y Gweinidogion)
Cyngor yr UE yw'r prif gorff sy'n gwneud penderfyniadau yn yr Undeb. Mae gweinidogion llywodraethau cenedlaethol yn eistedd ar y Cyngor a'i brif dasg yw cymeradwyo cyfreithiau Ewropeaidd. Mae'n cwrdd ar ffurf sectorau gyda'r Llywydd yn y gadair ac mae'r gweinidogion cenedlaethol perthnasol yn mynychu'r cyfarfodydd hyn.
Mae Arlywyddion a Phrif Weinidogion pob aelod-wladwriaeth yn mynychu uwch-gynadleddau a elwir y Cynghorau Ewropeaidd bob tri mis. Nod y cyfarfodydd hyn yw pennu canllawiau ar gyfer gwaith yr UE dros y misoedd i ddod a gwneud y penderfyniadau pwysicaf.
Senedd Ewrop
Prif rôl Senedd Ewrop yw ystyried y cyfreithiau a gynigiwyd gan y Comisiwn a'u cymeradwyo gyda chytundeb y Cyngor. Mae'n monitro gweithgareddau cyrff eraill yr UE ac yn helpu gyda'r gwaith o bennu cyllideb yr UE.
Mae 732 o aelodau yn y Senedd (Aelodau Senedd Ewrop - ASEau), 78 ohonynt o'r DU (a 4 o'r rheiny o Gymru). Cânt eu hethol bob pum mlynedd ym mhob aelod-wladwriaeth. Cynhelir etholiadau nesaf Senedd Ewrop ym mis Mai 2009. Mae'r Senedd yn cwrdd mewn Cyfarfodydd Llawn yn Strasbwrg ac ym Mrwsel.
Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â'r pedwar ASE o Gymru:
Jillian Evans ASE
23 High Street
Chancery Lane
Aberteifi
Cymru
SA43 1HD
Ffôn: 01239 623611
Ffacs: 01239 623612
Ebost: jievans@europarl.eu.int
Jonathan Evans ASE
4 Penlline Road
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 2XS
Ffôn: 02920 616031
Ffacs: 02920 613539
Ebost: jevans@europarl.eu.int
Glenys Kinnock ASE
Labour Exchange Office
Y Gyfnewidfa Lo
Mount Stuart Square
Bae Caerdydd
CF10 6EB
Tel: 02920 485305
Fax: 02920 484534
Email: gkinnock@europarl.eu.int
Eluned Morgan ASE
Labour Exchange Office
Y Gyfnewidfa Lo
Mount Stuart Square
Bae Caerdydd
CF10 6EB
Ffôn: 02920 485305
Ffacs: 02920 484534
Ebost: emorgan@europarl.eu.int
Y Comisiwn Ewropeaidd
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig cyfreithiau newydd sy'n cael eu hystyried gan y Cyngor a'r Senedd, ynghyd â gweithredu cyfreithiau presennol. Ar hyn o bryd mae yna 25 Comisiynydd (un o bob aelod-wladwriaeth).
Llywydd presennol y Comisiwn Ewropeaidd yw Jose Manuel Barroso (cyn Brif Weinidog Portiwgal). Peter Mandelson yw'r Comisiynydd o Brydain sy'n gyfrifol am y portffolio Masnach.
Llys Cyfiawnder Ewrop
Yn Llys Cyfiawnder Ewrop mae Barnwyr a benodwyd gan bob aelod-wladwriaeth. Mae'r Llys wedi'i leoli yn Lwcsembwrg.
Mae'n gyfrifol am sicrhau bod y prosesau ar gyfer dehongli a gweithredu'r Cytundebau yn glynu wrth y gyfraith. Mae dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop yn rhan o gyfraith genedlaethol.
Llys Archwilwyr Ewrop
Yn aml cyfeirir at Lys Archwilwyr Ewrop fel "cydwybod ariannol" yr Undeb Ewropeaidd a dyma'r sefydliad sy'n archwilio'r cyfrifon. Mae'n edrych ar gyfrifon refeniw a gwariant yr Undeb ac yn sicrhau bod y rheolaeth ariannol yn gadarn.
Cyngor Ewrop
“lled-sefydliad”. Y mae ar wahân oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd o 25 gwlad, ond nid oes unrhyw wlad erioed wedi ymuno â'r UE heb fod yn aelod o Gyngor Ewrop cyn hynny. Fe'i sefydlwyd ym 1949 a dyma sefydliad gwleidyddol hynaf y cyfandir. Ar hyn o bryd mae ganddo 46 aelod (ynghyd â chais gan Belarws).
Gweler: http://cy.wikipedia.org
No comments:
Post a Comment