3.11.07

Comisiynydd yr UE ar ymweliad â Chymru

Gwelodd Vladimir Spidla, Comisiynydd Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chyfle Cyfartal yr UE a chyn Brif Weinidog y Weriniaeth Tsiec, brosiectau a ariennir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) cyn cwrdd â'r Prif Weinidog Rhodri Morgan yn y Senedd. "Rwyf wrth fy modd bod y ddwy raglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop yng Nghymru ar gyfer y saith mlynedd nesaf wedi cael eu mabwysiadu. Nawr, gallu Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith o ddewis ac ariannu prosiectau a fydd o fudd i bobl ac economi Cymru," meddai'r Comisiynydd Spidla.

Mae ymweliad Mr Spidla yn dilyn y cyhoeddiad bod Cymru yn arwain y ffordd yn Ewrop fel un o'r rhanbarthau cyntaf lle mae ei holl raglenni Cronfeydd Strwythurol wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer y cyfnod 2007-2013. Mae hyn yn golygu y gall gwaith ddechrau i fuddsoddi ymhellach mewn swyddi a thwf. Disgwylir i'r rhaglenni Cydgyfeirio £1.4 biliwn ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a'r rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol ar gyfer Dwyrain Cymru lywio cyfanswm o £3 biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth. Bydd y cronfeydd yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â diweithdra a rhoi hwb i dwf economaidd cynaliadwy.

Bu'r Comisiynydd ar ymweliad â Genesis Cymru, Radio Cardiff, Yn Awyddus i Weithio a Chynllun Prentisiaeth Fodern yn GE AES Caerffili. Cyfarfu â rhai o'r unigolion sydd wedi gwella'u bywydau drwy gynlluniau hyfforddiant a chyflogaeth. Mae Genesis Cymru eisoes wedi helpu 10,000 o bobl o bob cwr o Gymru i ddychwelyd i'r gwaith, tra bod y Cynllun Prentisiaeth Fodern wedi darparu hyfforddiant sgiliau allweddol i fwy na 51,000 o bobl yn yr ardaloedd Amcan 1 a 3. Hyd yn hyn, mae Yn Awyddus i Weithio wedi cysylltu â 6,000 o bobl ac wedi helpu 1,600 o bobl i gael gwaith. Agorodd y Prif Weinidog Radio Cardiff wythnos diwethaf, ac mae gorsaf gymunedol pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig gyntaf y ddinas yn rhoi llwyfan ar gyfer hyfforddiant yn y diwydiannu creadigol.

No comments: