16.7.08

Y Gymraeg yn Ennill statws newydd yn yr UE

Mae’r defnydd o’r Gymraeg ar y llwyfan rhyngwladol yn cymryd cam mawr ymlaen heddiw [15 Gorffennaf] yn sgil penderfyniad gan Gyngor Gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd. Maen nhw wedi penderfynu y bydd Gweinidogion yn cael siarad yn Gymraeg pan fyddan nhw’n cynrychioli’r DU yng Nghyngor y Gweinidogion a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael i gyfieithu’r hyn maen nhw’n ei ddweud. Hefyd caiff dinasyddion ysgrifennu yn Gymraeg at swyddogion y Cyngor.

Mae penderfyniad y Cyngor wedi’i wneud yn sgil trafod rhwng y Cyngor, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y trefniadau yn cael eu rhoi ar waith ar ôl i banel o gyfieithwyr Cymraeg gael eu hasesu i sicrhau eu bod â’r medrusrwydd y mae sefydliadau’r UE yn gofyn amdano.

Bydd y penderfyniad yn agor y ffordd i drafodaethau ar ddefnyddio’r Gymraeg â sefydliadau eraill yr UE. Cafodd yr ymrwymiad i wneud cais swyddogol i Gyngor y Gweinidogion, fel bod y Gymraeg yn cael statws swyddogol ar gyfer ei defnyddio yng ngwaith yr UE, ei wneud yng nghytundeb Cymru’n Un, sydd yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf heddiw.

Wrth siarad ar ôl penderfyniad y Cyngor heddiw, meddai Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan: "Mae hwn yn ddatblygiad hanesyddol i’r Gymraeg ac mae’n dangos bod yr Undeb Ewropeaidd yn cydnabod amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol. Mae’n dangos sut y gall cydweithrediad cryf rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU arwain at ganlyniadau ymarferol i Gymru yn Ewrop."

No comments: