13.9.07

Digon o Gymraeg?

Ysgrifennwyd gan/Written by Dafydd ab Iago

Trwy dynnu ffigurau at ei gilydd o lawer o ddadansoddiadau gwahanol o'r Cyfrifiad, Arolwg Defnydd Iaith 2004 Bwrdd yr Iaith ac ystadegau addysg, mae adroddiad newydd Bwrdd yr Iaith yn awgrymu fod yna gynnydd yn y nifer o blant sydd yn gallu 'r Gymraeg. Ond daw rhuglder yn sgîl defnydd ac mae defnydd yn dibynnu ar gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, yn yr ysgol ac yn gymdeithasol.

"Gallwn ddisgwyl gweld mwy o deuluoedd lle mae plant yn gallu siarad Cymraeg oherwydd dylanwad y gyfundrefn addysg, ond ar yr un pryd nid Cymraeg fydd prif iaith y cartref," meddai Hywel Jones, Ystadegydd Bwrdd yr Iaith.

Cafodd yr adroddiad newydd ei gyflwyno gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar Ddydd Mawrth 8 Awst ar faes yr Eisteddfod. Mae data Bwrdd yr Iaith yn dangos mai datblygu cyfleoedd a fframwaith gymdeithasol lle gall y defnydd o'r Gymraeg ffynnu yw'r prif feysydd sydd angen gweithredu arnynt.

"Wrth weithio tuag at fywiogrwydd y Gymraeg i'r dyfodol, mae'n rhaid ymdrechu i sicrhau bod y siaradwyr newydd—gan gynnwys oedolion sy'n dysgu Cymraeg yn dod yn barod i ddefnyddio'r iaith, ac i deimlo yn gyfforddus wrth wneud hynny tra'n gweithio, yn cymdeithasu neu yn y cartref," ategodd Meddai Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Darllenwch rhagor ar wefan Bwrdd yr Iaith

No comments: