13.9.07

Yr Undeb Ewropeaidd

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn grŵp gwleidyddol ac economaidd wledydd yn Ewrop gyda 25 o aelodau-gwladwriaethau ers 1 Mai, 2004. Sefydlwyd yr UE trwy Cytundeb Maastricht ym 1991 a mae pencadlys ym Mrwsel.

Mae'r UE yn darparu marchnad gyffredin, undeb tollau, yr arian Ewro (ond nid mewn pob wlad), polisi amaethyddol cyffredin a polisi pysgodfeydd cyffredin. Mae hefyd yn darparu nifer o raglenni a chydgysylltu gweithgareddau ei aelodau-gwladwriaethau.

Statws

Yr Undeb Ewropeaidd yw'r cyfundrefn rhyngwladol mwyaf pwerus y byd. Mae nifer o aelod-gwladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth cenedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, farchnad mewnol, masnach dramor) a felly mae'r UE yn datblygu i rywbeth yn debyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, doedd hi ddim yn gwlad ffederal, ond yn pwysleisio "subsidiarity" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau yn mor agos a phosib i'r bobl sy'n cael yr effaith y penderfyniadau). Mae'r aelod-gwladwriaethau yn rheoli'r cytundebau a gall yr UE ddim trosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-gwladwriaethau i'r UE. Mae hynny yn strwythur unigol iawn.

Cychwyniad

Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn wledydd er mwyn ail-adeiladu Ewrop ar ôl yr Ail Rhyfel y Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Am fanylion gweler Hanes yr Undeb Ewropeaidd.

Gweler: http://cy.wikipedia.org

No comments: