13.9.07

Hanes yr Undeb Ewropeaidd

Enw cyntaf yr UE roedd Gymuned Ewropeaidd Economaidd (EEC), neu Marchnad Gyffredin yn yr DU. Newidwyd yr enw i Gymuned Ewropeaidd (EC) ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechreu fel undeb masnach datblygwyd yr UE i undeb economeg a gwleidyddol.

Enw cyntaf yr UE roedd Gymuned Ewropeaidd Economaidd (EEC), neu Marchnad Gyffredin yn yr DU. Newidwyd yr enw i Gymuned Ewropeaidd (EC) ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechreu fel undeb masnach datblygwyd yr UE i undeb economeg a gwleidyddol. Gweler hefyd: Hanes yr Undeb Ewropeaidd.

Ers 1 Mai, 2004 mae 25 o aelod-gwladwriaethau yr Undeb Ewropeaiddn, ond y 6 wledydd sydd yn sefydlu'r UE ym 1952/1958 yw:

* Yr Almaen (Gorllewin)
* Yr Eidal
* Ffrainc
* Yr Iseldiroedd
* Gwlad Belg
* Lwcsembwrg

Mae 19 o wladwrieathau wedi ymuno â'r UE erbyn hyn:

* ym 1973: Denmarc, Gweriniaeth Iwerddon a'r Deyrnas Unedig
* ym 1981: Gwlad Groeg
* ym 1986: Portiwgal a Sbaen
* ym 1990: ehangwyd tiriogaeth yr UE trwy uniad yr Almaen
* ym 1995: Awstria, Y Ffindir, and Sweden
* ym 2004: Cyprus, Y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia

Cafwyd Y Lasynys ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadaeloedd yr UE ym 1985 ar ôl refferendwm. Am wybodaeth bellach gweler hefyd y prif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd.

Heb fod yn aelod-gwladwriaeth yr UE, mae perthynas arbennig â'r UE gan llawer o wledydd fel Monaco ac Andora. Gwler hefyd yr erthygl Gwledydd gan perthynas arbennig â'r Undeb Ewropeaidd).

Maint yr holl tirwedd y 25 aelod-gwladwriaethau (2004) yr UE yw 3,892,685 km². Pe tasa'r UE yn un wlad, bydda'r wlad 7fed mawr y byd. Roedd boblogaeth yr UE (sef poblogaeth yr aelod-gwladwriaethau yr UE o dan dermau y Cytunad Maastricht) y 25 aelod-gwladwriaethau ger 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 a felly wlad 3edd mawr ar ôl India a Tseina.

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

No comments: