25.9.07

Mae'r Gymraeg yn beryglus

Mae Cyngor Abertawe wedi dewis arwyddion uniaith Saesneg ar gylchdro 'am resymau iechyd a diogelwch' yn ôl adroddiad gan y BBC. "Yn yr enghraifft hon roedd ein swyddogion priffyrdd wedi cwblhau asesiad iechyd a diogelwch ar y safle ac yn bryderus fod marciau ffordd dwyieithog ac arwyddion dwyieithog, o gofio natur gymhleth y ffyrdd beth bynnag, yn gallu arwain at fwy o gymhlethdod i yrwyr ac y gallai ychwanegu at y perygl," dywedodd llefarydd Cyngor Abertawe ar wefan BBC Radio Cymru.

"Mae arwyddion dwyieithog neu amlieithog i'w cael led led Ewrop mewn gwledydd lle siaredir mwy nag un iaith swyddogol," dywedodd Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn datganiad. "Cyfeiriwn at rai o'r gwledydd hyn - Sweden, Gwlad Belg, Sbaen, Y Swistir. A fedrwch egluro i mi pam nad yw arwyddion dwyieithog yn cael eu hystyried yn beryglus yn y gwledydd hyn, ond yn beryglus yn Abertawe?" Cyfeiriodd Mr Lewis at y ffaith bod siroedd eraill Cymru ynghyd a'r Cynulliad Cenedlaethol yn cydnabod nad oes berygl o gwbl mewn arwyddion dwyieithog.

No comments: