14.9.07

Owain Glyndŵr yn costio £130,000

Mae Owain Glyndŵr yn codi unwaith eto yng Ngogledd Cymru, ond fel cerflun newydd nid mewn gwrthryfel. Cafodd y cerflun ei osod yn sgwâr y dre yng Nghorwen, tref sydd â chysylltiadau cryf gyda’r gwladgarwr enwog. Mae’r cerflun wedi costio tua £130,000, gyda help Cyngor Sir Dinbych, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ifor Williams Trailers, ac Yr Arglwydd Niwbwrch yn ogystal â Phartneriaeth Corwen. "Mae Owain Glyndŵr yn ffigwr hanesyddol ac yn eicon i lawer o Gymry o hyd," dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth.

"Mae’r prosiect hwn wedi cael ei gomisiynu gan Bartneriaeth Corwen, corff sy’n cynnwys sectorau preifat a chyhoeddus yn dre ac mae Stiwdios Colin Spofforth wedi ymgymryd â’r holl broses gwaith, o ddylunio’r cerflun i chwilio am arian," ychwanegodd Thomas. "Bydd y cerflun rhagorol newydd hwn yn deyrnged priodol ac yn rhoi blas ar hanes Cymru i ymwelwyr i Gorwen."

Bydd seremoni dadorchuddio swyddogol yn hwyrach y flwyddyn hon.

No comments: