13.9.07

Dysgu Cymraeg i oedolion

Ysgrifennwyd gan/Written by Dafydd ab Iago

"Mae polisïau iaith yn amrywio'n eang o le o le ond nid yw hyn yn golygu na allwn ddysgu gwersi diddorol a defnyddiol o brofiadau gwledydd eraill," dywedodd ASE Plaid Cymru Jill Evans. "Mae polisïau iaith yn amrywio'n eang o le o le ond nid yw hyn yn golygu na allwn ddysgu gwersi diddorol a defnyddiol o brofiadau gwledydd eraill," dywedodd ASE Plaid Cymru Jill Evans.

Roedd Evans yn annerch cynhadledd yn Aberystwyth dydd Llun 22 Mai er mwyn trafod dyfodol dysgu Cymraeg i oedolion a chymharu sefyllfa Cymru â sefyllfa gwledydd eraill yn Ewrop.

"Yr hyn sy'n hanfodol yw ymrwymiad ar ran y llywodraeth, ewyllys da ar ran y bobl a'r adnoddau sydd angen er mwyn cyflyru'r newid sydd rhaid wrthynt. Yma yng Nghymru, dwi ddim yn gweld unrhyw arwydd o gwbl o ymrwymiad gan y llywodraeth bresennol a hwn yw'r ffactor fwyaf andwyol ar hyn o bryd," meddai Evans.

Roedd Mrs Evans - sy'n Is Lywydd Plaid Cymru - yn sôn am ei phrofiadau yn y maes fel aelod o Senedd Ewrop gan drafod y sefyllfaoedd mewn gwledydd megis Catalwnia, Latfia, Galisia a Llydaw. Bydd hi hefyd yn cefnogi'r galw i sefydlu corff i hyrwyddo dysgu Cymraeg i oedolion.

"Rydym angen sefydlu corff arbenigol i hyrwyddo dysgu Cymraeg i Oedolion - sefydliad fyddai'n gallu targedu adnoddau yn ôl yr angen a chydlynu'r ddarpariaeth. Heb sefydliad o'r fath yr ofn yw na fydd ffocws cenedlaethol i ymdrechion dysgu Cymraeg i oedolion a chan hynny dim modd i hyrwyddo twf yn y sector allweddol hon."

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
http://www.jillevans.net

No comments: